Bydd y datblygiad arfaethedig yn trawsnewid ac yn adfywio ffatri Ferodo sydd wedi mynd â’i phen iddi ers tro a’r tir cyfagos, gan ymgorffori hen dir tirlenwi a thir halogedig, gan ddod â’r ardal yn ôl i ddefnydd cynhyrchiol. Wrth wneud hynny, bydd yn symud treftadaeth ddiwydiannol hir-sefydlog y rhanbarth ymlaen i’r oes fodern ac yn sicrhau dyfodol y safle fel canolbwynt pwysig ar gyfer diwydiant ac arloesi.
Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy gyfuniad o fuddsoddi ac adfer o amgylch hen safle Ferodo, ochr yn ochr â mesurau gwella ecolegol.
Y canlyniad fydd canolfan ddata raddadwy gyda chysylltiad pŵer 450MW, gan helpu i wella gwasanaethau digidol sy’n rhan annatod o fywyd modern.
Drwy gydol y gwaith adeiladu a gweithredu, bydd y cyfleuster yn cefnogi swyddi, hyfforddiant ac addysg sgiliau uchel. Rydym yn gweithio gyda darparwyr addysg lleol, gan gynnwys colegau a phrifysgolion, i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd hyfforddi lleol yn ystod y camau adeiladu a gweithredu.
Bydd yn cael ei reoli a’i bweru’n gynaliadwy yn rhannol gan ffynonellau adnewyddadwy lleol, gan helpu i ddefnyddio a chadw ynni Gogledd Cymru.
Mae’r ardal leol yn ystyriaeth hollbwysig yn y cynnig hwn sy’n sicrhau defnydd parhaus o’r ardal gyfagos a llwybr beicio a llwybr troed Lôn Las Menai, a dim effaith ormodol ar Afon Menai a’r Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) cysylltiedig.
I gefnogi hyn ac i helpu’r datblygiad i sicrhau manteision lleol amlwg, fe’ch gwahoddir i rannu eich adborth ar y cynigion.
Ein Cynnig
Bydd y datblygiad arfaethedig ger Caernarfon yn gyfleuster canolfan ddata newydd gyda’r gallu i gynyddu cystadleurwydd technolegol Cymru a’i gallu i addasu i ddiwallu’r galw digidol sy’n esblygu. Bydd yn helpu i adfywio safle diwydiannol halogedig a aeth â’i ben iddo ers tro ac yn ysgogi gweithgarwch economaidd ar draws y rhanbarth ar yr un pryd â darparu swyddi lleol medrus a buddsoddi mewn sgiliau ac addysg yn lleol.
Prif ddefnydd y safle fydd ar gyfer cyfleuster canolfan ddata a fydd yn gartref i’r cyfrifiaduron a’r cyfarpar sydd eu hangen i storio a phrosesu’r data sy’n hwyluso gwasanaethau digidol modern fel offer deallusrwydd artiffisial a chyfathrebu ar-lein a ffrydio cynnwys.
Bydd yn gampws canolfan ddata a fydd yn cael ei adeiladu dros nifer o flynyddoedd ar ôl troed hen ffatri Ferodo a’r caeau cyfagos. Bydd is-orsafoedd a seilwaith ategol arall yn cyd-fynd â hyn.
Bydd y ganolfan ddata yn cael ei phweru gan gysylltiad grid trawsyrru uniongyrchol â cheblau tanddaearol o is-orsaf y National Grid ym Mhentir, yn hytrach na pheilonau uwchben. Bydd yn defnyddio’n rhannol ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yng Ngogledd Cymru.
Mae union ddyluniad y cyfleuster yn dal i gael ei benderfynu a bydd yn ymgorffori adborth lleol a dderbynnir yn ystod ein hymgysylltiad parhaus â’r gymuned lle bo hynny’n bosibl.
Mae consortiwm o bartneriaid dylunio ac adeiladu sydd â phrofiad ac arbenigedd sylweddol mewn darparu seilwaith digidol mawr yn datblygu’r prosiect hwn.
Mae’r safle’n cynnwys hen safle ffatri Ferodo ac ardal gyfagos i’r de, rhwng tref Caernarfon a phentref Y Felinheli.
Mae’r safle’n mesur oddeutu 38.2 hectar, a bydd tua wyth hectar yn cael ei gadw ar gyfer gwelliant ecolegol.
Saif yn bennaf rhwng llwybr Lôn Las Menai, a fydd yn cael ei gynnal a’i gadw drwy gydol y gwaith adeiladu a gweithredu, a’r Afon Menai, gyda rhai nodweddion ategol fel adeilad is-orsaf a leolir rhwng y llwybr a Ffordd Caernarfon.
Cliciwch ar bob cynllun safle i'w ehangu
Cyfanswm yr arwynebedd y bydd y datblygiad yn ei gwmpasu gan gynnwys tir wedi'i neilltuo ar gyfer gwelliant ecolegol
Dadansoddiad Safle
Parth Adeiladu Uchaf
Manteision Lleol
Dewis safle
Dewiswyd y safle oherwydd ei allu i gefnogi economi ddigidol Cymru sydd ar gynnydd.
Mae’n cyfuno’r gofod, gan gynnwys tir llwyd a ddatblygwyd yn flaenorol, ac agosrwydd at bŵer grid sydd ei angen i gefnogi canolfan ddata ar raddfa fawr sy’n hanfodol i gyflawni uchelgeisiau seilwaith digidol cenedlaethol.
Mae ei gysylltiad â llwybrau strategol fel Ffordd Osgoi Caernarfon yr A487 a chanolfannau cyflogaeth fel Caernarfon a Bangor hefyd yn darparu mynediad at gronfa dalent leol a phartneriaid yn y gadwyn gyflenwi yn ogystal â chyfleusterau hyfforddi ac addysgol y gall eu cefnogi.
Ar ben hynny, canolfan ddata yw un o’r mathau cyfyngedig o gyfleusterau y gellid eu cyflwyno’n ymarferol ar y safle, o ystyried lefel y gwaith adfer sydd ei angen, er mwyn gallu parhau â’i dreftadaeth ddiwydiannol gyfoethog.
Buddion cymunedol
Mae’r cynnig hwn yn rhan o symudiad ehangach wrth i Gymru fanteisio ar y chwyldro diwydiannol newydd drwy fuddsoddi yn seilwaith digidol y genhedlaeth nesaf.
Rydym yn falch o gyfrannu at hyn drwy adfywio’r safle diwydiannol hwn a fu unwaith yn ffyniannus a chreu’r amodau i ddod â llafur sgiliau uchel yn ôl a fydd yn hybu twf ac yn helpu i droi tudalen yn hanes diwydiannol y rhanbarth. Yn ystod y gwaith adeiladu, rhagwelwn greu 950 o swyddi i drigolion Cymru, ynghyd â 210 o swyddi eraill lleol unwaith y bydd y ganolfan ddata’n weithredol. Mae swyddi mewn canolfannau data ar gyfartaledd yn talu’n well ac ar lefel uwch o ran galwedigaeth.
Bydd y safle hefyd yn creu cyfleoedd i gadwyni cyflenwi lleol sy’n gallu cefnogi’r ganolfan ddata drwy wasanaethau fel cynnal a chadw cyfleusterau a gweithgynhyrchu cydrannau a bydd o fudd i’r economi bob dydd drwy fwy o gwsmeriaid yn ystod y camau adeiladu a gweithredu.
Bydd y twf hwn yn cael ei hwyluso ar gyfer y tymor hir diolch i bartneriaethau â sefydliadau addysg lleol sy’n canolbwyntio ar ddatblygu piblinell diwydiant Cymru yn y dyfodol.
Tirwedd naturiol
Rhoddir ystyriaeth ofalus i’r dirwedd wrth i gynlluniau esblygu i gynnal y cydbwysedd hir-sefydlog rhwng defnydd diwydiannol a naturiol o’r ardal. Mae wyth hectar o’r safle wedi’u dynodi ar gyfer gwelliannau ecolegol. Bydd hyn yn cynnwys mesurau i hybu bioamrywiaeth a churadu mannau a rennir i sicrhau bod pawb yn gallu parhau i fwynhau’r ardal. Gwahoddir y gymuned i roi adborth a syniadau i sicrhau bod y gofod hwn yn cael ei ddylunio gydag anghenion lleol mewn golwg.
Bydd y ganolfan ddata yn cysylltu’n uniongyrchol â’r system Drawsyrru Genedlaethol, gan ganiatáu iddi ddefnyddio trydan adnewyddadwy sydd dros ben o Ogledd Cymru ar yr un pryd ag osgoi effeithio ar y cyflenwad trydan lleol a helpu i leihau’r angen i allforio ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yng Ngogledd Cymru.