Skip to content

Ymgysylltu Canolfan Ddata Menai

Mae Canolfan Ddata Menai yn fuddsoddiad yn nyfodol Gogledd Cymru, gan greu cyfleoedd newydd mewn diwydiant twf uchel sy’n gallu angori presenoldeb lleol hirdymor.

Bydd y datblygiad arfaethedig yn trawsnewid ac yn adfywio ffatri Ferodo sydd wedi mynd â’i phen iddi ers tro a’r tir cyfagos, gan ymgorffori hen dir tirlenwi a thir halogedig, gan ddod â’r ardal yn ôl i ddefnydd cynhyrchiol. Wrth wneud hynny, bydd yn symud treftadaeth ddiwydiannol hir-sefydlog y rhanbarth ymlaen i’r oes fodern ac yn sicrhau dyfodol y safle fel canolbwynt pwysig ar gyfer diwydiant ac arloesi.

Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy gyfuniad o fuddsoddi ac adfer o amgylch hen safle Ferodo, ochr yn ochr â mesurau gwella ecolegol.

Y canlyniad fydd canolfan ddata raddadwy gyda chysylltiad pŵer 450MW, gan helpu i wella gwasanaethau digidol sy’n rhan annatod o fywyd modern.

Drwy gydol y gwaith adeiladu a gweithredu, bydd y cyfleuster yn cefnogi swyddi, hyfforddiant ac addysg sgiliau uchel. Rydym yn gweithio gyda darparwyr addysg lleol, gan gynnwys colegau a phrifysgolion, i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd hyfforddi lleol yn ystod y camau adeiladu a gweithredu. 

Bydd yn cael ei reoli a’i bweru’n gynaliadwy yn rhannol gan ffynonellau adnewyddadwy lleol, gan helpu i ddefnyddio a chadw ynni Gogledd Cymru.

Mae’r ardal leol yn ystyriaeth hollbwysig yn y cynnig hwn sy’n sicrhau defnydd parhaus o’r ardal gyfagos a llwybr beicio a llwybr troed Lôn Las Menai, a dim effaith ormodol ar Afon Menai a’r Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) cysylltiedig. 

I gefnogi hyn ac i helpu’r datblygiad i sicrhau manteision lleol amlwg, fe’ch gwahoddir i rannu eich adborth ar y cynigion. 

Cliciwch yma i rannu eich adborth

Image

Cyfanswm yr arwynebedd y bydd y datblygiad yn ei gwmpasu gan gynnwys tir wedi'i neilltuo ar gyfer gwelliant ecolegol - cliciwch i ehangu

Ein Cynnig

Bydd y datblygiad arfaethedig ger Caernarfon yn gyfleuster canolfan ddata newydd gyda’r gallu i gynyddu cystadleurwydd technolegol Cymru a’i gallu i addasu i ddiwallu’r galw digidol sy’n esblygu. Bydd yn helpu i adfywio safle diwydiannol halogedig a aeth â’i ben iddo ers tro ac yn ysgogi gweithgarwch economaidd ar draws y rhanbarth ar yr un pryd â darparu swyddi lleol medrus a buddsoddi mewn sgiliau ac addysg yn lleol.

Prif ddefnydd y safle fydd ar gyfer cyfleuster canolfan ddata a fydd yn gartref i’r cyfrifiaduron a’r cyfarpar sydd eu hangen i storio a phrosesu’r data sy’n hwyluso gwasanaethau digidol modern fel offer deallusrwydd artiffisial a chyfathrebu ar-lein a ffrydio cynnwys.

Bydd yn gampws canolfan ddata a fydd yn cael ei adeiladu dros nifer o flynyddoedd ar ôl troed hen ffatri Ferodo a’r caeau cyfagos. Bydd is-orsafoedd a seilwaith ategol arall yn cyd-fynd â hyn.

Bydd y ganolfan ddata yn cael ei phweru gan gysylltiad grid trawsyrru uniongyrchol â cheblau tanddaearol o is-orsaf y National Grid ym Mhentir, yn hytrach na pheilonau uwchben. Bydd yn defnyddio’n rhannol ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yng Ngogledd Cymru.

Mae union ddyluniad y cyfleuster yn dal i gael ei benderfynu a bydd yn ymgorffori adborth lleol a dderbynnir yn ystod ein hymgysylltiad parhaus â’r gymuned lle bo hynny’n bosibl.

Mae consortiwm o bartneriaid dylunio ac adeiladu sydd â phrofiad ac arbenigedd sylweddol mewn darparu seilwaith digidol mawr yn datblygu’r prosiect hwn.

Mae’r safle’n cynnwys hen safle ffatri Ferodo ac ardal gyfagos i’r de, rhwng tref Caernarfon a phentref Y Felinheli.

Mae’r safle’n mesur oddeutu 38.2 hectar, a bydd tua wyth hectar yn cael ei gadw ar gyfer gwelliant ecolegol.

Saif yn bennaf rhwng llwybr Lôn Las Menai, a fydd yn cael ei gynnal a’i gadw drwy gydol y gwaith adeiladu a gweithredu, a’r Afon Menai, gyda rhai nodweddion ategol fel adeilad is-orsaf a leolir rhwng y llwybr a Ffordd Caernarfon.

Cliciwch ar bob cynllun safle i'w ehangu

Image

Cyfanswm yr arwynebedd y bydd y datblygiad yn ei gwmpasu gan gynnwys tir wedi'i neilltuo ar gyfer gwelliant ecolegol

Image

Dadansoddiad Safle

Image

Parth Adeiladu Uchaf

Manteision Lleol

Dewis safle

Dewiswyd y safle oherwydd ei allu i gefnogi economi ddigidol Cymru sydd ar gynnydd.

Mae’n cyfuno’r gofod, gan gynnwys tir llwyd a ddatblygwyd yn flaenorol, ac agosrwydd at bŵer grid sydd ei angen i gefnogi canolfan ddata ar raddfa fawr sy’n hanfodol i gyflawni uchelgeisiau seilwaith digidol cenedlaethol.

Mae ei gysylltiad â llwybrau strategol fel Ffordd Osgoi Caernarfon yr A487 a chanolfannau cyflogaeth fel Caernarfon a Bangor hefyd yn darparu mynediad at gronfa dalent leol a phartneriaid yn y gadwyn gyflenwi yn ogystal â chyfleusterau hyfforddi ac addysgol y gall eu cefnogi.

Ar ben hynny, canolfan ddata yw un o’r mathau cyfyngedig o gyfleusterau y gellid eu cyflwyno’n ymarferol ar y safle, o ystyried lefel y gwaith adfer sydd ei angen, er mwyn gallu parhau â’i dreftadaeth ddiwydiannol gyfoethog.

Buddion cymunedol

Mae’r cynnig hwn yn rhan o symudiad ehangach wrth i Gymru fanteisio ar y chwyldro diwydiannol newydd drwy fuddsoddi yn seilwaith digidol y genhedlaeth nesaf.

Rydym yn falch o gyfrannu at hyn drwy adfywio’r safle diwydiannol hwn a fu unwaith yn ffyniannus a chreu’r amodau i ddod â llafur sgiliau uchel yn ôl a fydd yn hybu twf ac yn helpu i droi tudalen yn hanes diwydiannol y rhanbarth. Yn ystod y gwaith adeiladu, rhagwelwn greu 950 o swyddi i drigolion Cymru, ynghyd â 210 o swyddi eraill lleol unwaith y bydd y ganolfan ddata’n weithredol. Mae swyddi mewn canolfannau data ar gyfartaledd yn talu’n well ac ar lefel uwch o ran galwedigaeth.

Bydd y safle hefyd yn creu cyfleoedd i gadwyni cyflenwi lleol sy’n gallu cefnogi’r ganolfan ddata drwy wasanaethau fel cynnal a chadw cyfleusterau a gweithgynhyrchu cydrannau a bydd o fudd i’r economi bob dydd drwy fwy o gwsmeriaid yn ystod y camau adeiladu a gweithredu.

Bydd y twf hwn yn cael ei hwyluso ar gyfer y tymor hir diolch i bartneriaethau â sefydliadau addysg lleol sy’n canolbwyntio ar ddatblygu piblinell diwydiant Cymru yn y dyfodol.

Tirwedd naturiol

Rhoddir ystyriaeth ofalus i’r dirwedd wrth i gynlluniau esblygu i gynnal y cydbwysedd hir-sefydlog rhwng defnydd diwydiannol a naturiol o’r ardal. Mae wyth hectar o’r safle wedi’u dynodi ar gyfer gwelliannau ecolegol. Bydd hyn yn cynnwys mesurau i hybu bioamrywiaeth a churadu mannau a rennir i sicrhau bod pawb yn gallu parhau i fwynhau’r ardal. Gwahoddir y gymuned i roi adborth a syniadau i sicrhau bod y gofod hwn yn cael ei ddylunio gydag anghenion lleol mewn golwg.

Bydd y ganolfan ddata yn cysylltu’n uniongyrchol â’r system Drawsyrru Genedlaethol, gan ganiatáu iddi ddefnyddio trydan adnewyddadwy sydd dros ben o Ogledd Cymru ar yr un pryd ag osgoi effeithio ar y cyflenwad trydan lleol a helpu i leihau’r angen i allforio ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yng Ngogledd Cymru.

Cyfle i ddweud eich dweud

Digwyddiad Ymgysylltu

Cynhaliwyd digwyddiad galw heibio cyhoeddus gyda thîm y prosiect ddydd Iau 28 Mai 2026 yn Ystafell Menai, Gwesty'r Celt Royal, Stryd Bangor, Caernarfon LL55 1AY, o 3pm i 8pm.

Rhoddodd y digwyddiad gyfle i ddysgu mwy am y cynigion a'u trafod yn uniongyrchol gyda thîm y prosiect.

Hoffem ddiolch i bawb a fynychodd. Gwerthfawrogir eich amser, eich diddordeb a'ch cyfraniadau gwerthfawr yn fawr.

Adborth a'r camau nesaf

Rydym yn parhau i groesawu eich adborth ac yn annog pawb i rannu eu barn ar y cynnig hwn gan ddefnyddio'r ffurflen adborth isod.

Cyflwynwch eich ymateb erbyn dydd Gwener 26 Mehefin 2026. Bydd eich mewnbwn yn helpu i lywio cam nesaf y broses gynllunio, y disgwylir iddo gael ei gyflwyno ym mis Awst 2026.

Cyflwynwch eich adborth gan ddefnyddio'r ffurflen isod

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'n tîm prosiect ar info@canolfanddatamenai.com.

Ffurflen adborth

Beth yw eich cysylltiad chi â’r safle?







Pa mor aml ydych chi’n defnyddio neu’n ymweld â’r llwybr troed neu’r llwybr beicio sy’n rhedeg ochr yn ochr â safle’r datblygiad arfaethedig?






Pa mor gyfarwydd fyddech chi’n dweud ydych chi â chanolfannau data a’r rôl maen nhw’n ei chwarae mewn cymdeithas?






Beth yw eich barn am ganolfannau data?

Oeddech chi’n ymwybodol bod y safle’n cynnwys ardaloedd o dir halogedig, gan gynnwys hen safle tirlenwi, y byddai’r datblygiad yn helpu i’w adfer?




Ar sail yr wybodaeth a ddarparwyd, beth yw eich barn gychwynnol am y datblygiad arfaethedig a’n cynlluniau ni ar gyfer y safle?

Pa rai o’r manteision lleol ac economaidd canlynol sydd bwysicaf i chi?








Oes gennych chi unrhyw awgrymiadau ynghylch sut y gallai’r datblygiad arfaethedig gefnogi neu barchu’r Gymraeg ac adlewyrchu diwylliant lleol?

Pa rai o’r blaenoriaethau canlynol sydd bwysicaf i chi wrth feddwl am ddyfodol y safle hwn?







Pa welliannau hoffech chi eu gweld yn cael eu hystyried fwyaf yn yr ardal hon?







A oes gennych chi unrhyw awgrymiadau ar gyfer gwella’r ardal o amgylch y safle?

A fyddech chi’n hoffi derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynigion hyn. Os felly, sut hoffech chi gael yr wybodaeth ddiweddaraf?




Ydych chi’n teimlo bod [y wefan hon / y deunyddiau ymgysylltu] yn glir ac yn hawdd eu deall?



A oes unrhyw beth arall sy’n bwysig i ni ei ystyried yn eich barn chi wrth i’r cynigion hyn gael eu datblygu?

Mae eich holl wybodaeth bersonol yn cael ei chadw mewn cronfa ddata ddiogel ar weinydd sydd wedi'i leoli yn y Deyrnas Unedig. Am ragor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, ewch i'n polisi preifatrwydd.